Er fod Prifysgol Rhydychen a’i cholegau wedi bod yn gweithio gyda ysgolion ar hyd a lled Cymru ers rhai blynyddoedd, mae myfyrywr o Gymru dal wedi’u tan-gynrychioli yn Rhydychen. Rydym eisiau newid hyn – amser am ddull newydd! Dyma un o’n myfyrwyr i esbonio rhagor:

Mae Coleg yr Iesu, y Coleg Newydd, a Choleg St Catherine’s wedi ymuno a’i gilydd i lawnsio Rhydychen Cymru, ein rhaglen estyn allan (‘outreach’) cymunedol i Gymru. Gan weithio gyda’n gilydd gallwn sicrhau fod Prifysgol Rhydychen yn gallu cynnig rhaglen estyn allan cynhwysfawr a chydlynol ar gyfer Cymru gyfan.
Nodau
Mae’n nodau yn uchelgeisiol:
- Darparu cymorth estyn allan parhaus ar draws HOLL ardaloedd Cymru ar gyfer disgyblion, athrawon a darpar ymgeiswyr prifysgol o grwpiau tangynrychioledig.
- I annog a ysbrydoli myfyrwyr Cymraeg o bob oedran a chefndir i fwynhau eu dysgu, bod yn ddysgwyr annibynnol, cael hyder yn eu hunain a bod yn uchelgeisiol am eu dyfodol.
- Gwella cyfleoedd addysgiadol pob disgybl.
- Helpu’r rheini yng Nghymru sy’n anelu at brifysgolion disglair i gyflawni eu nod.
- Gwithio gyda gweddill y Brifysgol i gynyddu’r ganran o fyfyrwyr israddedig DU o 15% i 25% erbyn 2023.
- I Brifysgol Rhydychen fod yn nod realistig ar gyfer unrhyw un â dawn academaidd ac ymrwymiad.
Gweithio gyda’n gilydd
Dros y blynyddoedd nesaf bydd Rydychen Cymru yn gweithio gyda ysgolion a cholegau yn yr ardaeloedd canlynol:
Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Pen y Bont ar Ogwr, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Sir Fynwy, Sir Gâr, Powys, Wrecsam, Ynys Môn.
Yn ogystal â gweithio gyda Rhwydwaith Seren ar hyd a lled y wlad, mae Rhydychen Cymru yn datblygu partneriaethau gydag awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau aml-academi a mudiadau symudedd cymdeithasol.
Beth yw rôl Catz?
Ni rydym yn disgwyl gallu gwneud newidiadau radical dros nos, ond gobeithiwn adeiladu partneriaethau hir-oes ar draws y wlad a fyddai’n fuddiol i’r holl gymuned o ysgolion yn ogystal â’n Prifysgol am genedlaethau lawer. Mae Catz yn gweithio’n galed i gyflawni hyn yn barod ac bellach wedi gweithio gyda’r ysgolion a mudiadau canlynol yn 2021:
- Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl
- Careers Wales
- STEM Gogledd
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwaith Rhydychen Cymru, yn cynnwys ein gwaith gyda Rhwydwaith Seren, ewch i https://www.ox.ac.uk/rhydychen-cymru
Cysylltwch â Steffan Williams, Swyddog Estyn Allan (Outreach Officer) Coleg St Catherine’s i weld sut allwn eich helpu (yn rhad ac am ddim): admissions@stcatz.ox.ac.uk